Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Hydref 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5356
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, 4 a 5. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am: Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am: RMS Leinster (100 mlynedd ers iddi suddo).
Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am: Dathlu Wythnos Gofal Hosbis 2018.
Gwnaeth David Melding ddatganiad am: Diwrnod Digartrefedd y Byd.
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am Dathlu Canolfan Iaith Clwyd yn 30 oed a Gwefr heb Wifrau yn 10 oed.
Dechreuodd yr eitem am 15.33
NDM6825 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27 – Gorchmynion Adran 116C’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2018; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 24, 25 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.42
NDM6819 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru.
2. Diben y Bil hwn fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni chyflwynwyd Cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6821 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad: "Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018;
2. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru);
3. Yn cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i:
a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad,
c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso, a
d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â hwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
3 |
1 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6813
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi tystiolaeth fwy manwl mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer cynnal profion pellach er mwyn darparu mwy o dryloywder; a
b) cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded forol sy'n galluogi gweithgarwch gwaredu ac ymgymryd â rhaglen eang o ymgysylltu ac ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ar draws de Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
26 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi:
a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.
c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.
d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
22 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6813
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.
2. Yn nodi:
a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.
b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.
c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.
d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Dechreuodd yr eitem am 17.38
NDM6820 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru
Casnewydd: economi, seilwaith a chyfleoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Hydref 2018